Rhoi teyrnged i lowyr y Gleision
- Published
Flwyddyn ar ôl trychineb Glofa'r Gleision mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhoi teyrnged i'r dynion fu farw.
Dechreuodd yr ymgyrch achub pan lifodd dŵr i mewn i'r pwll ond bu farw David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62 oed, Philip Hill, 44 oed a Garry Jenkins, 39 oed, yn y drychineb yng Nghilybebyll ger Pontardawe.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Byddaf i'n cofio'r hyn a ddigwyddodd am byth.
"Gallwn ond dychmygu pa mor echrydus oedd profiad ofnadwy'r teuluoedd wrth aros am newyddion am y dynion fu farw.
"Rhaid oedd iddyn nhw aros am oriau maith cyn clywed y newyddion ofnadwy.
"Mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn erchyll i wragedd, meibion a merched y dynion druan. Anfonaf fy nghydymdeimladau diffuant i'r teuluoedd ar yr adeg anodd hon, flwyddyn yn ddiweddarach.
"Effeithiodd yr hyn a ddigwyddodd yn y Lofa yng Nghilybebyll arnon ni i gyd".
'Trychineb i Gymru gyfan'
Ar y pryd dywedodd y Prif Weinidog bod y ddamwain yn "drychineb i Gymru gyfan" gan fod y "diwydiant glo yn rhan o hunaniaeth Cymru, yn rhan hollbwysig o lunio'n gwlad".
Flwyddyn yn ddiweddarach, ychwanegodd: "Rhaid i ni gofio'r bywydau sydd wedi'u colli wrth gloddio am lo dros y blynyddoedd.
"Yn sgîl y digwyddiadau erchyll flwyddyn yn ôl, cawson ni i gyd ein hatgoffa o'r peryglon y mae glowyr yn eu hwynebu bob tro y byddan nhw'n mynd i'r pwll ar ddechrau eu diwrnod gwaith.
"Roedd y ffordd y daeth y gymuned ynghyd i gefnogi'r teuluoedd, a charedigrwydd y cymdogion yn ystod yr amser anodd, yn ysbrydoliaeth i ni gyd.
"Rwy' hefyd yn dymuno rhoi teyrnged i'r gwasanaethau brys a weithiodd yn ddiflino gan wneud eu gorau glas mewn amgylchiadau peryglus i chwilio am y glowyr.
"Rhaid i ni gofio trychineb Gleision a dysgu gwersi er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a bod digwyddiadau fel hyn yn perthyn i'r gorffennol."
Mae dros £1 miliwn wedi ei gasglu ar gyfer teuluoedd y pedwar glöwr fu farw ar Fedi 15, 2011.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Medi 2012
- Published
- 16 Tachwedd 2011
- Published
- 4 Hydref 2011
- Published
- 18 Medi 2011
- Published
- 17 Medi 2011