BBC Cymru Fyw

Croesawu ras feicio fwyaf Prydain

Published

Mae Cymru wedi manteisio ar boblogrwydd seiclo wedi llwyddiant Prydain yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain wrth groesawu ras feicio fwyaf Prydain - Tour of Britain - ddydd Gwener.

Roedd chweched cymal y ras - sy'n wyth o gymalau i gyd - yn gorffen yng Nghaerffili, ac roedd rhai o enwau mawr y gamp yno.

Leopold Koenig o Weriniaeth Siec enillodd y cymal.

Un o'r seiclwyr ifanc newydd yn nhîm Sky oedd Luke Rowe, 21 oed o Gaerdydd, sy'n cael ei ystyried yn un o sêr y dyfodol, ac fe ddaeth e'n bumed ddydd Gwener.

Ond roedd siom i gefnogwyr fore Gwener gyda'r newyddion na fyddai enillydd y Tour de France a medal aur Olympaidd, Bradley Wiggins, yn dechrau'r cymal yng Nghymru oherwydd salwch stumog.

Roedd Pencampwr y Byd, Mark Cavendish, un o'r gwibwyr mwyaf llwyddiannus erioed yn hanes y Tour de France, yn y ras ddydd Gwener.

Mynydd Caerffili

Ddydd Gwener roedd y cystadleuwyr yn dechrau cymal 6 yng Nghastell Powys ger Y Trallwng am 10.30am cyn mynd ar daith galed i fyny ac i lawr Mynydd Caerffili ddwywaith cyn gorffen y cymal 189km yng nghysgod castell enwog y dref am 2.48pm.

Ar y ffordd roedd y ras yn teithio drwy Drefaldwyn, Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt cyn anelu dros Fannau Brycheiniog.

image captionMae Luke Rowe wedi bod yn aelod o garfan ddatblygu Olympaidd Prydain

Dechreuodd y ras gyflawn yn Ipswich ar Fedi 9, ac fe fydd yn gorffen yn Guildford ar Fedi 16.

Mae rhai o dimau seiclo enwoca'r byd yn rasio gan gynnwys Team Sky, Garmin-Sharp ac Euskaltel-Euskadi.

Yno hefyd roedd tîm newydd ieuenctid Prydain - Team UK Youth - sy'n cynnwys y Cymro Gruff Lewis o Aberystwyth.

Cafodd Gruff ei goroni'n Bencampwr Rasio Ffordd Cymru yn 2011, ac enillodd Bencampwriaeth Criterium Cymru yn yr un flwyddyn.

Straeon perthnasol

  • Medal aur i Geraint Thomas