Gŵyl Fwyd Y Fenni yn gobeithio am dywydd braf

Gŵyl fwyd Y Fenni Image copyright Nathan Morgan
Image caption Mae'r ŵyl yn denu tua 30,000 o bobl i'r dref bob mis Medi

Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Y Fenni yn gobeithio bydd tywydd da yn dod â mwy o ymwelwyr i'r ŵyl eleni.

Dywedon nhw fod rhifau mynychwyr wedi bod pumed yn llai blwyddyn ddiwethaf oherwydd tywydd gwael.

Fel arfer mae tua 30,000 o bobl yn dod i'r ŵyl.

Mae'r ŵyl yn cynnwys mwy na 200 o stondinau bwyd a nifer o sgyrsiau gan wahoddedigion fel Kate Humble, Claudia Roden a Yotam Ottolenghi.

Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen yr ŵyl, Martin Orbach, ei bod yn gobeithio byddai'r ŵyl yn rhoi hwb i'r Fenni.

Lansiodd Mr Orbach yr ŵyl gyda ffarmwr arall, Chris Wardle, ym 1999 yn sgil argyfwng BSE yng ngwartheg.

Dywedodd ei bod yn gobeithio eu bod wedi hybu'r dref a chynhyrchwyr bwyd lleol.

"Rydym yn bendant wedi codi proffil Y Fenni yn nhermau bwyd, ac mae yna sawl fwyty poblogaidd yn yr ardal," meddai.

"Mae tocynnau wedi gwerthu'n dda iawn - blwyddyn diwetha' wnaethon ni ddioddef oherwydd tywydd gwael ond rydyn ni'n gobeithio bydd tua 30,000 o ymwelwyr eleni."

Image copyright BBC Wales
Image caption Bydd marchnad Y Fenni yn cael ei symud tu allan i'r dref er mwyn gwneud lle i archfarchnad a llyfrgell

Un o brif atyniadau'r ŵyl fydd trafodaeth am ddyfodol y stryd fawr a phŵer yr archfarchnadoedd ar ddydd Sadwrn am 6pm.

Bydd y cyflwynydd deledu Kate Humble yn ymddangos yn yr ŵyl ar ddydd Sul gydag arddangosiadau gan rai o'r cogyddion a chynhyrchwyr bwyd sydd yn ei helpu i droi ffarm yn Sir Fynwy yn ganolfan ar gyfer sgiliau cefn gwlad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.