Llengfilwyr: Ymchwiliad i dri achos
- Published
Mae'r awdurdodau'n ymchwilio i dri achos o glefyd y llengfilwyr yng Nghaerfyrddin.
Roedd y tri'n gorfod mynd i'r ysbyty ond maen nhw wedi cael eu rhyddhau.
Mae pobl yn mynd yn sâl wrth anadlu bacteria sy' ar ffurf diferion o ffynhonnell ddŵr wedi ei heintio.
All y clefyd ddim cael ei drosglwyddo o berson i berson ac mae'r symptomau cychwynnol yn debyg i rai ffliw cyn bod problemau anadlu'n datblygu.
Dylai unhrywun â symptomau roi gwybod i feddyg teulu. Gall y clefyd arwain at niwmonia.
'Adnabod y ffynhonell'
Dywedodd Dr Mac Walapu, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydyn ni'n siarad o hyd â'r tri sy' wedi bod yn sâl er mwyn cael gwell dealltwriaeth am yr hyn wnaethon nhw yn ystod y dyddiau cyn iddyn nhw fynd yn sâl ...
"Y nod yw adnabod y ffynhonell.
"Mae'n bwysig nodi bod hwn yn glefyd prin iawn ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i gyswllt â'r bacteria yn mynd yn sâl.
"Ac mae'r risg fwyaf i'r rhai sy'n hynach na 50 oed, yn enwedig dynion a smygwyr."
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Medi 2012
- Published
- 3 Mawrth 2012
- Published
- 2 Awst 2011
- Published
- 12 Hydref 2010