Dod o hyd i legionella mewn ysbyty
- Published
Mae bwrdd iechyd wedi dod o hyd i facteriwm legionella yn system ddŵr Ysbyty Llandrindod ym Mhowys, haint sy'n gallu achosi clefyd y llengfilwyr.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgol Powys fod dŵr potel yn cael ei ddefnyddio i olchi a bod y system ddŵr yn cael ei thrin.
Ychwanegodd y bwrdd nad oedd adroddiadau am unrhyw un yn diodde' oherwydd y bacterium hyd yma.
Dywedodd Dr Sumina Azam, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd: "Mae'n bwysig cofio nad oes unrhyw achosion o glefyd y llengfilwyr ac nad oes modd pasio'r clefyd o berson i berson."
Dywedodd y bwrdd y gallai'r bacteriwm achosi clefyd y llengfilwyr, sy'n dechrau gyda symptomau tebyg i'r ffliw, ac yn gallu arwain at lid yr ysgyfaint.
Ychwanegodd na fyddai pawb sy'n dod i gysylltiad gyda'r bacteriwm yn diodde' unrhyw effeithiau.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Mawrth 2012
- Published
- 2 Awst 2011