Archfarchnad: Ffrae wleidyddol
- Cyhoeddwyd

Mae ffrae wleidyddol yn sir Gaerfyrddin wrth i'r cyngor sir dan arweinyddiaeth clymblaid rhwng Llafur a grŵp Annibynnol gyhuddo AS ac AC Plaid Cymru o beryglu'r posibilrwydd o dros fil o swyddi newydd.
Yn eu tro mae Rhodri Glyn Thomas AC a Jonathan Edwards yn cyhuddo'r cyngor o wastraffu arian y trethdalwyr wrth gynnal ymgyrch wleidyddol yn eu herbyn.
Daw'r ffrae yn sgil cais gan gwmni Sainsbury's i godi dwy archfarchnad yn y sir, un yn Cross Hands a'r llath yn Llandeilo.
Dywed y cwmni y byddai'r siopau yn creu 1,200 o swyddi newydd.
Ond mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ymyrryd, ac i benderfynu a ddylid rhoi caniâtad cynllunio.
'Peryglu'r cynllun'
Yn ôl arweinydd Cyngor Caerfyrddin byddai codi archfarchnad yng Nghaerfyrddin hefyd wedi adfer tir diffaith, ac y byddai'r safle yn cynnwys tai fforddiadwy, meddygfa a chartref gofal.
"Ar y gorau byddai'r penderfyniad yma yn golygu oedi ac ar y gwaethaf fe allai beryglu'r cynllun yn gyfan gwbl," meddai'r cynghorydd Kevin Madge, arweinydd y cyngor.
Ond yn ôl Mr Thomas a Mr Edwards mae'r cyngor yn euog o ddefnyddio arian y trethdalwyr i gynnal ymosodiadau gwleidyddol.
Maen nhw'n dweud fod nifer o bobl leol a masnachwyr wedi cysylltu â nhw gan ofyn iddynt wrthwynebu cynlluniau Sainsbury's.
"Mae sylwadau'r cynghorydd Madge, mewn datganiad ar y cyd gyda'r datblygwyr, yn dangos yn glir fod y cyngor hwn sy'n cynnwys aelodau Llafur ac aelodau annibynnol ym mhoced cwmnïau busnes," meddai Mr Thomas a Mr Edwards mewn datganiad.
"Byddwn ni o hyd yn rhoi buddiannau'r etholwyr yn gyntaf."
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2012