BBC Cymru Fyw

Pro12: Gweilch 10-28 Glasgow

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionDTH van der Merwe yn sgorio

Mae dechrau hynod siomedig y Gweilch i'r tymor yn parhau wrth i bencampwyr Pro12 y llynedd golli yn erbyn Glasgow ar y Liberty.

Mae'r Gweilch nawr wedi colli tair gêm yn olynol, a hon oedd buddugoliaeth gyntaf Glasgow.

Fe wnaeth asgellwr yr ymwelwyr DTH van der Merwe sgorio dau gais ac roedd cais hefyd i'r blaenasgellwr Chris Fusaro.

Ar ôl yr egwyl aeth y clo Ian Evans drosodd am gais ond doedd buddugoliaeth i'r Gweilch ddim yn edrych yn debygol ar unrhyw adeg.

Cafodd buddugoliaeth yr ymwelwyr ei suro rhywfaint gan anaf i ysgwydd y mewnwr rhyngwladol Chris Cusiter.

Timoedd

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirksen, Jonathan Spratt, Ashley Beck, Tom Grabham; Dan Biggar, Rhys Webb; Duncan Jones, Richard Hibbard, Aaron Jarvis, Ian Gough, Ian Evans, George Stowers, Justin Tipuric (capt), Joe Bearman.

Eilyddion: Scott Baldwin, Ryan Bevington, Joe Rees, Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Kahn Fotuali'i, Matthew Morgan, Andrew Bishop.

Glasgow: Peter Murchie; Tommy Seymour, Alex Dunbar, Peter Horne, DTH van der Merwe; Duncan Weir, Chris Cusiter; Ryan Grant, Dougie Hall, Mike Cusack, Tom Ryder, Ali Kellock (capt), John Barclay, Chris Fusaro, Ryan Wilson.

Eilyddion: Finlay Gillies, George Hunter, Gordon Reid, James Eddie, Angus Macdonald, Henry Pyrgos, Ruaridh Jackson, Sean Lamont.

Straeon perthnasol

  • Chwalu gobeithion y Gweilch