BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Leeds.

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionJordan Mutch dros Gaerdydd yn rhan o'r chwarae yn erbyn Brighton nos Fawrth

Caerdydd 2-1 Leeds Utd

Fe wnaeth Craig Bellamy sgorio gôl wych o gic rydd i sicrhau trydedd fuddugoliaeth gartref i Gaerdydd.

Dau funud ar ôl dod i'r maes fel eilydd fe sgoriodd Bellamy o 20 llath.

Yna fe roddodd Peter Whittingam tim y brif ddinas dwy ar y blaen gyda chic o'r smotyn.

Daeth hynny ar ôl i Tom Lees amddiffynwr Leeds droseddu yn erbyn Nicky Maynard.

Tarodd Leeds yn ôl gyda chic rydd Rodolph Austin o 30 llaeth ond bu bron i Tommy Smith ymestyn mantais Caerdydd yn hwyr yn y gêm.

Straeon perthnasol

  • Gêm ddi-sgôr wrth i Gaerdydd deithio i Brighton