BBC Cymru Fyw

Y Pro 12: Y Dreigiau 5-16 Gleision

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Bu hi'n ddiwrnod i'w gofio i faswr y Gleision Rhys Patchell yn ei gêm gyntaf i'r Gleision yn y Pro12.

Fe wnaeth y chwaraewr 19 oed gicio dair cic gosb a throsgais i sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Y Dreigiau oedd ar y blaen ar yr egwyl 5-3 ar ôl i Steffan Jones groesi o un o ymosodiadau prin yr hanner.

Ond roedd hon yn gêm llawn gwallau, ac fe fanteisio Alex Cuthbert i groesi'r llinell er bod y Gleison lawr i 14 dyn.

Fe ddaeth Jamie Roberts i'r maes yn yr ail hanner, ei ymddangosiad cyntaf ers iddo gael llawdriniaeth ym mis Mawrth.

Connacht 11-24 Scarlets

Fe wnaeth Jordan Williams drosi am ddau gais yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth gyda phwynt bonws oddi cartref yn erbyn Connacht yn Galway.

Roedd y tîm cartref ar y blaen 8-0 ar yr egwyl ar ôl cig gosb Miah Nikora a chais Eoin Griffin.

Ond y Scarlets oedd yn rheoli yn yr ail hanner. Roedd yn geisiadau hefyd i George North a Jonathan Davies.

Unig sgôr arall Connacht yn gêm oedd cig gosb arall gan Nikora.

Nos Wener

Gweilch 10-28 Glasgow

Mae dechrau hynod siomedig y Gweilch i'r tymor yn parhau wrth i bencampwyr Pro12 y llynedd golli yn erbyn Glasgow ar y Liberty.

Mae'r Gweilch nawr wedi colli tair gêm yn olynol, a hon oedd buddugoliaeth gyntaf Glasgow.

Fe wnaeth asgellwr yr ymwelwyr DTH van der Merwe sgorio dau gais ac roedd cais hefyd i'r blaenasgellwr Chris Fusaro.

Ar ôl yr egwyl aeth y clo Ian Evans drosodd am gais ond doedd buddugoliaeth i'r Gweilch ddim yn edrych yn debygol ar unrhyw adeg.

Straeon perthnasol

  • Chwalu gobeithion y Gweilch