Corff: Heddlu yn ymchwilio
- Published
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn camlas yng Nghwmbrân.
Cafwyd hyd iddo yn ardal Parc Manwerthu Cwmbrân fore Sadwrn.
Dywed yr heddlu iddynt dderbyn galwad tua 9.25 am.
Credir fod y corff wedi ei ddarganfod gan aelod staff oedd ar ei ffordd i'w waith yn un o siopau'r parc.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y dyn yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra.
Roedd ganddo wallt llwyd ac roedd yn gwisgo sbectol brown ac roedd ganddo ddannedd gosod.