Casnewydd ar y brig

Published
image copyrightOther

Barrow 0-3 Casnewydd

Sgoriodd Danny Crow ddwywaith wrth i Gasnewydd guro Barrow 3-0 i ddychwelyd i frig uwchgynghrair y Blue Square.

Casnewydd aeth ar y blaen cyn yr egwyl wrth gydag ergyd neerthol Lee Evans.

Yna gyda 20 munud yn weddill fe sgoriodd Crow gydag ergyd o 35 llath.

Sgoriodd Crow ei ail gyda pheniad o gornel Andy Sandell.

Roedd ganodd gyfle am hat-trick ond methu fu ei hanes gyda chic o'r smotyn ar ôl trosedd ar Ben Swallow yn y blwch cosbi.

image copyrightOther

Luton 0-0 Wrecsam

Bu'n rhaid i Wrecsam frwydo'n galed i sicrhau pwynt oddi cartef yn erbyn Luton ar faes kenilworth Road.

Fe aeth Andy Bishop yn agos i sicrhau'r pwyntiau i'r ymwelwyr ond fe'i rwystwyd gan arbediad gwych gan Mark Tyler.

Wrecsam oed dyn rheoli'r chwarae yn yr ail hanner.

Janos Kovacs ddaeth agosaf i sgorio i Luton gyda pheniad.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol