BBC Cymru Fyw

Heddlu yn canfod corff

Published
image copyrightDyfed Powys Police
image captionIan Pearson

Cred yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn o ardal Salford sydd wedi bod ar goll yn ne Penfro.

Dywed yr heddlu eu bod wedi bod yn chwilio am Ian Pearson, 41, ar ôl iddo fynd a'i ddau gi am dro yn ardal Aber Bach (Little Haven).

Bu badau achub yr RNLI a thimau gwylwyr y glannau yn chwilio ardal Aber Bach a bae Sant Ffraid ar ôl 6pm ddydd Mercher.

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gorff mewn coedwig yn ne'r sir ddydd Sadwrn.

Mae teulu Mr Pearson wedi cael gwybod.

Dyw amgylchiadau'r farwolaeth ddim yn amheus.