Lloegr: Nôl i lefel O?
- Published
Mae mwy o fanylion wedi cael eu datgelu ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth San Steffan ar gyfer arholiadau TGAU yn Lloegr.
Y gred yw, yw y bydd y cymhwyster newydd, sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Llun, yn debycach i'r hen Lefel O.
Bydd y disgyblion cyntaf yn sefyll yr arholiad yn 2017 .
Mae yna adolygiad o'r TGAU hefyd yn cael ei gynnalyng Nghymru.
Mae llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddant yn rhuthro i wneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol arholiadau TGAU
Yn ôl llefarydd, fe fydd Llywodraeth Cymru yn aros am ganlyniadau adolygiad o gymwysterau disgyblion rhwng14 a19 oed fis Tachwedd, cyn gwneud penderfyniad.
Mae'r datblygiadau diweddaraf yn dilyn ffrae gyhoeddus rhwng Gweinidogion Addysg Cymru a San Steffan ynglŷn ag ailraddio papurau arholiad TGAU Saesneg.
Mae Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews hefyd wedi cyhuddo Michael Gove, Gweinidog Addysg San Steffan o ddiffyg cyfathrebu cyn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn ogystal â Lloegr.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Medi 2012
- Published
- 12 Medi 2012
- Published
- 23 Awst 2012
- Published
- 23 Awst 2012
- Published
- 1 Awst 2012