BBC Cymru Fyw

Coleman i ddysgu o 'gamgymeriadau'

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi annog rheolwr y tîm, Chris Coleman, i ddysgu o "gamgymeriadau" a welwyd yn y golled o 6-1 yn erbyn Serbia.
Dywedodd y prif weithredwr, Jonathan Ford, y bydd Coleman yn gwneud newidiadau ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol nesaf yn erbyn Yr Alban a Croatia ym mis Hydref - gemau "y mae'n rhaid eu hennill".
Pwysleisiodd Ford fod gan Coleman "gefnogaeth lwyr" y Gymdeithas, ond cyfaddefodd nad oedd y perfformiad yn erbyn Serbia yn ddigon da.

'Siomedig'

"Fyddai neb yn gwadu ein bod yn siomedig gyda hynny," meddai Ford.
"Byddai'r chwaraewyr yn dweud hynny, y rheolwr yn dweud hynny a'r cefnogwyr yn deud hynny.
"Wrth gwrs rydym am gymryd y cyfle i ddysgu o'n camgymeriadau, i ddeall beth aeth o'i le, i ddeall beth sydd angen ei wneud i wella pethau.
"Mae gen i bob ffydd yn Chris Coleman i sicrhau ei fod yn adnabod y pethau sydd angen iddo'u gwneud i sicrhau bod gennym bob cyfle wrth fynd ymlaen."

'Rhaid ennill'

Daeth y golled drom yn erbyn Serbia yn dilyn yn y gêm agoriadol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
Ychwanegodd Ford bod effaith y ddwy golled ychydig yn llai gan nad oedd yr un o'r timau yng Ngrŵp A wedi ennill eu dwy gêm agoriadol, gan adael Cymru bedwar pwynt y tu ôl i Wlad Belg, Croatia a Serbia ar frig y grŵp.
Ond dywedodd hefyd na fyddai dim llai na chwe phwynt o'r ddwy gêm yn erbyn Yr Alban ar Hydref 12 a Croatia ar Hydref 16 yn ddigon da.
"Rhaid i ni ennill y ddwy," meddai Ford. "Fe fydd Croatia yn anodd iawn, a'r Alban yw'r un allweddol a gadewch i ni ddymuno'r gorau i Chris."
Mae Cymru wedi colli pum gêm yn olynol o dan arweinyddiaeth Coleman ers iddo gael ei benodi'n olynydd i Gary Speed ym mis Ionawr.
Eisoes mae nifer o gefnogwyr wedi troi arno, ond mae'r cyn chwaraewyr rhyngwladol Kevin Ratcliffe, Robbie Savage a Mark Bowen wedi ei amddiffyn gan roi'r bai ar y chwaraewyr.
"Mae gan Coleman ein cefnogaeth lawn," meddai Ford.
"Mae'n rheolwr da iawn ac wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Rwy'n gobeithio y bydd yn llwyddiannus i ni yng Nghymru hefyd."

Straeon perthnasol

  • Coleman: Amddiffyn yn 'gywilyddus'