Llusern Chineaidd yn achosi tân mewn cartre'
- Cyhoeddwyd

Cafodd perchennog tŷ ddihangfa lwcus wedi i lusern Chineaidd achosi tân yn Sir y Fflint.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod y digwyddiad yn Hilltop Close, Ewlo, yn tanlinellu un o'r "peryglon" o ddefnyddio llusernau o'r fath.
Fe losgodd drwy'r plastig ar do'r ystafell haul, gan adael gweddillion ar y llawr ac olion mwg yn yr ystafell.
Gallai'r digwyddiad ddydd Sadwrn am 9:18am fod wedi bod yn llawer mwy difrifol, meddai'r rheolwr diogelwch cymunedol, Paul Whybro.
"Lwc pur oedd hi fod y cŵyr poeth wedi disgyn ar y llawr a ddim wedi rhoi unrhyw ddodrefn ar dân," meddai.
"Roedd y llusern wedi llosgi drwy'r ystafell haul tra roedd y perchennog yn cysgu dros nos ac roedd wedi bod yn mudlosgi ers rhai oriau."
Fis diwetha' cytunodd Cyngor Conwy i wahardd rhyddhau balwnau neu lusernau Chineaidd mewn digwyddiadau ar eu tir, gan ddweud eu bod yn peryglu bywyd gwyllt.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar eu heffaith, tra bod y Gymdeithas Cadwraeth Forol a mudiad Cadwch Gymru'n Daclus yn galw am eu gwahardd.
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2011
- 1 Rhagfyr 2010
- 20 Awst 2009
- 8 Tachwedd 2010