TGAU: Arholwyr i orffen ailraddio
- Published
Mae disgwyl i staff bwrdd arholi cydbwyllgor addysg Cymru (CBAC) gwblhau'r gwaith o ailraddio papurau arholiad TGAU Saesneg yng Nghymru ddydd Mawrth.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 5.00pm, ac o ganlyniad mae staff wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews gyhoeddi adroddiad oedd yn dweud fod y modd cafodd y graddau eu penderfynu yn annheg.
Bu cwymp yn nifer y disgyblion lwyddodd i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru o 61.3% yn 2011 i 57.4% eleni.
Mae'r ailraddio yn canolbwyntio ar y ffin rhwng graddau C a D.
Roedd y penderfyniad i ailraddio wedi arwain i ffrae gyhoeddus rhwng Mr Andrews a Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg San Steffan.
'Anghyfrifol'
Dywedodd Mr Gove bod Mr Andrews yn "anghyfrifol" am orchymyn CBAC i ailraddio papurau myfyrwyr o Gymru.
Rhybuddiodd hefyd y gallai cyflogwyr yn Lloegr benderfynu yn y dyfodol na fyddai pasio arholiad yng Nghymru yn cyfateb i ganlyniad tebyg yn Lloegr.
Llywodraeth Cymru sy'n rheoleiddio arholiadau yng Nghymru, ond yn Lloegr Ofqual sy'n gwneud y gwaith ac maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod angen ailraddio papurau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i gannoedd o ddisgyblion gael graddau gwell o ganlyniad i'r ailraddio.
Fe wnaeth 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll arholiad Saesneg CBAC, ond hefyd 84,000 o ddisgyblion yn Lloegr.
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Medi 2012
- Published
- 17 Medi 2012
- Published
- 12 Medi 2012
- Published
- 12 Medi 2012
- Published
- 23 Awst 2012
- Published
- 23 Awst 2012
- Published
- 1 Awst 2012