Desmond Tutu yn dod i Gymru
- Cyhoeddwyd

Bydd yr Archesgob Desmond Tutu yn ymweld â Chymru fis nesaf er mwyn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n helpu gwledydd yn Affrica.
Roedd yr enillydd Gwobr Heddwch Nobel ac ymgyrchydd gwrth-apartheid blaenllaw yng Nghymru yn 2009.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'n edrych ar raglen Cymru o blaid Affrica sy'n anelu at helpu unigolion, grwpiau a chymunedau Cymru i greu cysylltiadau gyda phrosiectau yng ngwledydd is-Sahara Affrica.
Mewn uwchgynhadledd datblygu rhyngwladol dywedodd Mr Jones y byddai'r Archesgob Tutu yn dod i Gymru ddiwedd mis Hydref i weld gwaith Cymru o blaid Affrica a sefydlwyd yn 2006.
'Gorchestion'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun ymhlith ymdrechion mwya' Cymru i gyflawni targedau datblygu'r mileniwm y Cenhedloedd Unedig, haneru tlodi drwy'r byd erbyn 2015.
Ychwanegodd Mr Jones: "Mewn chwe blynedd, a chyda chyllideb fechan, mae Cymru o blaid Affrica wedi cysylltu cannoedd o gymunedau yng Nghymru gyda channoedd a rai yn Affrica, wedi dylanwadu ar gwricwlwm ysgolion, wedi cefnogi Cymru i fod y genedl fasnach deg gyntaf ac wedi cyflawni cynllun newid hinsawdd mawr yn Uganda gyda'r Cenhedloedd Unedig - a dim ond rhai o orchestion y cynllun yw'r rheini."
Yn 2009 cafodd yr archesgob ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a bu'n un o siaradwyr mwyaf blaenllaw Gŵyl y Gelli ym Mhowys yr un flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2009
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2000