Lladrad: 14 mis o garchar
- Cyhoeddwyd

Clywodd llys fod teithiwr wedi pwnio gyrrwr, ei wthio allan o gar cyn rhoi'r car ar dân mewn chwarel.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd William Fern, 25 oed o Benygroes, Gwynedd, ei garcharu am 14 mis.
Plediodd yn euog i gyhuddiadau o ladrad a chynnau tân yn fwriadol.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi cael lifft o Waunfawr i Benygroes yn Ebrill ac wedi cydio yn yr olwyn llywio wrth i'r car nesáu at gylchfan.
Yn ddiweddarach defnyddiodd daniwr sigaréts i roi'r car ar dân yn Chwarel Dorothea.
Dywedodd Caroline Harris ar ran yr amddiffyn nad oedd Fern wedi elwa'n bersonol a bod y drosedd yn "ddiofal ac yn annoeth".
A dywedodd y Barnwr Peter Heywood nad oedd yn glir a oedd y gyrrwr, Steven Sykes, wedi cwympo neu wedi ei wthio.
Ond, meddai, roedd yr ymosodiad yn "beryglus iawn".