Cwblhau gorsaf bŵer £1 biliwn
- Published
Mae seremoni ddydd Mercher yn nodi diwedd codi gorsaf bŵer ar gost o £1 biliwn yn Sir Benfro, yr un fwyaf ym Mhrydain ers codi gorsaf Drax yn Sir Gogledd Efrog ym 1986.
Y datblygwyr, RWE npower, sy'n dathlu cwblhau'r orsaf yn Noc Penfro, fydd yn cyflenwi ynni ar gyfer tua 3m o dai.
Mae tair cenhedlaeth o staff gorsafoedd pŵer yn agor yr orsaf a thua 200 o westeion, gan gynnwys Is-weinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb.
Ond cadarnhaodd David Hughes, pennaeth swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd, eu bod yn ymchwilio i sut y rhoddwyd caniatâd i'r orsaf ac a ydyw'n niweidio'r bywyd môr.
Mae'r orsaf wedi bod yn destun dadlau ffyrnig, gyda mudiad Cyfeillion y Ddaear yn honni y gallai'r datblygiad niweidio bywyd môr mewn ardal gadwriaethol.
'Statws cadwriaethol'
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, gallai'r system oeri dŵr beryglu pysgod.
"Un o asedau mwyaf Sir Benfro yw'r amgylchedd a chyfoeth y bywyd môr.
"Dyna pam bod aber Afon Cleddau a'r ardal gyfagos wedi derbyn statws cadwriaethol mor uchel", meddai'r mudiad.
Penderfynodd Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan roi caniatâd cynllunio ym mis Chwefror 2009.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mai 2009 ac mae'r orsaf yn cyflogi tua 100 o bobl.
'Safonau uchel'
Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cymeradwyo'r cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer yr orsaf, gan ddweud eu bod wedi "gosod safonau uchel yn y drwydded ddrafft, o dan reolau'r Undeb Ewropeaidd a'r DU," er mwyn amddiffyn cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig yn ardal Aberdaugleddau, a hefyd er mwyn diogelu pobl sy'n byw mewn cymunedau gerllaw.
"Mae rhai o'r safonau hyn yn cynnwys cyfyngiadau ar lefelau sŵn o'r safle, cyfyngiadau llym ar allyriadau i'r awyr, a rheolaeth o dymheredd a chyfansoddiad y deunydd sy'n cael ei ryddhau i'r môr.
"Dyw'r deunydd hwn ddim yn debygol o gael llawer o effaith ar yr ardal o gwmpas yr orsaf ei hun, ac ar y cyfan fydd dim effaith niweidiol ar yr ardal gadwriaethol.
"Mae'r asiantaeth yn fodlon, drwy weithredu'r safonau llym yma, y gall y safle weithredu heb achosi niwed i gymunedau cyfagos na fywyd gwyllt lleol a'u cynefinoedd."
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Medi 2012
- Published
- 21 Chwefror 2011
- Published
- 2 Hydref 2010
- Published
- 19 Mawrth 2010
- Published
- 5 Chwefror 2009
- Published
- 27 Ebrill 2009