Pryderon busnesau ynni-ddwys
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynnal uwchgynhadledd yn Llundain ddydd Mercher i drafod y costau ynni cynyddol a wynebir gan fusnesau ynni-ddwys.
Mae'r cwmnïau ynni-ddwys rhyngwladol â chynhyrchiant uchel yng Nghymru wedi mynegi eu pryderon fwy nag unwaith i weinidogion Cymru ynghylch prisiau ynni uchel y DU.
Bydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain gyda chynrychiolwyr busnesau ynni-ddwys o Gymru.
Ym mhlith y rhai fydd yn bresennol bydd Tata Steel, Celsa Steel, UPM, Solutia, International Rectifier Corporation, Next Generation Data, Dow Corning Ltd, Murco Petroleum, y CBI a TUC Cymru.
'Eithriadol o heriol'
Dywedodd y Prif Weinidog:"Mae pawb yn cydnabod bod yr economi'n wynebu cyfnod eithriadol o heriol o ganlyniad i'r dirwasgiad dwbl a'r ansicrwydd economaidd byd-eang.
"Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae'n hollbwysig gwneud popeth o fewn ein gallu i annog twf ein heconomi a helpu ein busnesau.
"Mae cwmnïau gweithgynhyrchu Cymru'n codi'r mater o brisiau ynni uchel y Deyrnas Unedig gyda mi drwy'r amser".
'Allweddol'
Ychwanegodd bod cwmnïau mawr diwydiannol sy'n cynhyrchu nwyddau i'w masnachu'n rhyngwladol yn dweud wrtho fod prisiau ynni'n rhy uchel o lawer o gymharu â rhannau eraill o Ewrop, a bod hyn yn effeithio ar eu gallu i gystadlu.
"Rydw i wedi galw'r cyfarfod hwn er mwyn gallu trafod y mater yn llawn gyda chynrychiolwyr diwydiant yng Nghymru.
"Ym mhlith y cwmnïau mwyaf ynni-ddwys y mae'r sectorau gweithgynhyrchu a phetrogemegol, sy'n allweddol i'r economi yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 16 Ionawr 2012
- 16 Ebrill 2012