Remploy: Ffatri arall i gau yn Sir Gaerffili
- Cyhoeddwyd

Bydd un o'r ddwy ffatri Remploy sydd yn dal i weithredu yng Nghymru yn cau ymhen mis gyda 44 o bobl yn colli'u gwaith.
Mae'r cwmni wedi methu â chanfod prynwr ar gyfer y ffatri yng Nghroespenmaen, Sir Caerffili.
Yn y cyfamser mae Remploy wedi gofyn am fwy o eglurhad ynglŷn â chynigion i brynu'u ffatri arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn i'r cwmni wneud penderfyniad terfynol yr wythnos nesaf fydd yn effeithio ar 45 o staff yno.
Mae pump o ffatrïoedd Remploy - yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam eisoes wedi cau yn ystod yr haf gyda 189 o bobl yn colli'u gwaith.
£320 miliwn
Yn gynharach eleni, honnodd llywodraeth y DU y gallai'r gyllideb o £320 miliwn ar gyfer cyflogi pobl anabl gael ei gwario'n well.
Yn dilyn y cyhoeddiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gwerth £2.4m i gyflogwyr yng Nghymru fyddai'n cynnig swyddi i gyn weithwyr Remploy am o leiaf bedair blynedd.
Ym mis Gorffennaf, gwrthododd penaethiaid Remploy gynnig preifat i gymryd yr awenau yn ffatri Wrecsam fyddai wedi achub 40 o swyddi.
Cafodd ffatrïoedd Remploy eu sefydlu 66 o flynyddoedd yn ôl er mwyn darparu gwaith i bobl gydag anableddau.
Straeon perthnasol
- 16 Awst 2012
- 26 Gorffennaf 2012
- 19 Gorffennaf 2012
- 8 Mawrth 2012
- 9 Mai 2012