Millwall 0-2 Caerdydd

Sicrhaodd Caerdydd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref y tymor hwn, wedi goliau ail hanner gan Peter Whittingham a Craig Noone.

Daeth y gôl gyntaf wedi 52 munud wrth i Whittingham ergydio o du fas y cwrt cosbi i gornel chwith uchaf y rhwyd.

Seliwyd y fuddugoliaeth ddwy funud yn ddiweddarach wrth i Noone gwblhau symudiad da wrth droedio'r bêl i mewn o flaen y gôl.

James Henry gafodd cyfle gorau Millwall, ond fe arbedwyd ei gic rydd gan David Marshall.

Ynghyd â'i tair buddugoliaeth gartref, mae'r fuddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn gosod seiliau cadarn ar gyfer y tymor.

Mae Caerdydd yn parhau yn bumed yn y bencampwriaeth.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
GEMAU GWAHANIAETH GOLIAU PWYNTIAU
1. Blackburn 6 5 14
2. Blackpool 6 11 13
3. Brighton 6 9 13
4. Hull 6 6 13
5. Caerdydd 6 4 13
6.Nottm Forest 6 2 10

Straeon perthnasol