BBC Cymru Fyw

Disgyblion Cymru'n cael clywed graddau newydd

Published
image captionSimon Thomas: 'Pe na bai'r papurau hyn wedi eu hailraddio, fe fyddai 2,000 o fyfyrwyr â graddau anghyfiawn'

Mae cannoedd o ddisgyblion yng Nghymru wedi cael clywed beth yw eu graddau TGAU Saesneg newydd wedi i bapurau arholiad gael eu hailraddio.

Bu arholwyr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn gweithio dros y penwythnos wedi i'r Gweinidog Addysg orchymyn ailraddio'r papurau am ei fod yn credu bod newid ffiniau'r graddau'n annheg.

Yn ôl ffigyrau a ddatgelwyd ddydd Mawrth, fe gafodd dros 2,386 o ddisgyblion raddau gwell.

Fe wnaeth tua 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll yr arholiad yn yr haf a bydd cyfanswm o 1,202 yn gweld eu graddau yn cynyddu o D i C, a 598 yn gwella o C i B.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Gall ymgeiswyr fod yn dawel eu meddwl bod y broses a ddefnyddiwyd i benderfynu'r radd derfynol yn deg a chyfiawn."

Ffrae

Roedd canran disgyblion Cymru gafodd radd C mewn Saesneg yn yr haf yn 57.5%, sef 3.9% yn llai na chanran y llynedd (61.6%).

Ar ôl yr ailraddio, y ganran nawr yw 61.1%, sef ychydig yn llai na'r llynedd.

Cyfaddefodd Mr Andrews ei fod yn disgwyl i'r graddau Saesneg yng Nghymru fod yn is na'r llynedd o hyd.

Arweiniodd ei benderfyniad i orchymyn ailraddio papurau at ffrae rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.

image copyrightPA
image captionSafodd 34,000 yng Nghymru yr arholiad yn yr haf

Bydd 84,000 o fyfyrwyr yn Lloegr safodd yr un arholiad ddim yn cael eu hailraddio a gallai hyn olygu bod gradd C yng Nghymru yn cael ei ystyried yn radd D yn Lloegr am yr un papur.

Agorodd y bwlch rhwng y ddwy lywodraeth pan ddywedodd Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, y byddai'n diddymu'r TGAU yn Lloegr a chyflwyno arholiadau newydd y fagloriaeth Seisnig yn eu lle.

Bydd hynny'n golygu un arholiad ar ddiwedd y tymor yn hytrach nag asesu parhaus.

'Anghywir'

Wrth ymateb i'r canlyniadau newydd yng Nghymru, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC: "Mae'r ffaith fod graddau 2,000 o fyfyrwyr wedi eu gwella yn dangos mor anghywir oedd rheoleiddio canlyniadau'r arholiad.

"Pe na bai'r papurau hyn wedi eu hailraddio, fe fyddai 2,000 o fyfyrwyr â graddau anghyfiawn ac y mae hynny'n wir yn destun pryder.

"Rwy'n hynod falch bod y myfyrwyr hyn wedi cael eu graddau cywir ond mae'n amlwg fod diffygion difrifol dros ben yn y system.

"Mae angen i'r gweinidog ddweud wrthym a safodd unrhyw fyfyriwr arholiad Saesneg yng Nghymru dan unrhyw fwrdd arholi arall.

"Cawsom ar ddeall fod y newidiadau Ofqual wedi digwydd ar draws yr holl fyrddau arholi yn Lloegr ac eto dim ond rhai CBAC a newidiwyd yng Nghymru.

"Gallai llawer mwy o fyfyrwyr yng Nghymru fod â graddau annheg.

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am atebion hyd nes i ni ddarganfod beth aeth o'i le gyda'r papur hwn a byddwn yn parhau i alw am ddiwygio cymwysterau yng Nghymru er mwyn sicrhau system deg, gyson a thryloyw i fyfyrwyr Cymru."

'Annerbyniol'

Dywedodd Owen Hathway, swyddog polisi undeb NUT Cymru: "Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i orchymyn ailraddio papurau TGAU Saesneg.

"Fe fyddai wedi bod yn annheg pe bai myfyrwyr ac athrawon wedi gweithio'n galed iawn ond bod y graddau ddim yn adlewyrchu'r ymroddiad.

"Roedd yn annerbyniol newid y meini prawf hanner ffordd drwy'r broses, yn enwedig gan na chafwyd rhybudd i athrawon a disgyblion.

"Bydd cyflogwyr a sefydliadau addysg bellach yn gwybod wrth asesu cymwysterau myfyrwyr o Gymru sydd wedi sefyll yr arholiad fod hyhn yn adlewyrchiad teg o'u perfformiad.

"Roedd creu hyder yn y system drwy sicrhau bod disgyblion yn cael cynrychiolaeth deg o'u gwaith yn bwysig, a'r peth iawn i'w wneud."

Straeon perthnasol

  • TGAU: Gwell graddau i 2,386