Achub pont
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion wedi dweud eu bod yn poeni am fwriad Network Rail i ddymchwel pont gerdded.
Dywedodd y cwmni mai nifer fechan oedd yn defnyddio'r bont ym Mhorth Tywyn a bod dwy bont arall yn croesi'r rheilffordd.
Mae Maer y dre', y Cynghorydd Mary Wenman, yn dweud bod y bont yn hanesyddol ac yn gysylltiad pwysig rhwng siopau'r dre, sydd ar un ochr o'r cledrau, a'r harbwr sydd ar yr ochr arall.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn trafod y mater nos Lun.
"Bydd Tesco yn codi archfarchnad newydd ar ochr yr harbwr ac mae'n bwysig fod y datblygiad yna yn helpu siopau eraill y dre," meddai'r cynghorydd.
"Mae'n bwysig fod pobl yn gallu croesi o un ochr i'r llall.
'Etifeddiaeth'
"Ac mae pobl sydd am ddal y trên i Gaerfyrddin ar frys hefyd yn defnyddio'r bont. Rwyf i wedi defnyddio'r bont erioed.
"Mae'n rhan bwysig o hanes Porth Tywyn, yn rhan o gymeriad y dre' ... y rheilffordd sydd wedi siapio'r dre', rydyn ni'n taflu ffwrdd ein hetifeddiaeth."
Yr Aelod Seneddol Llafur, Nia Griffiths, sydd wedi galw'r cyfarfod nos Lun i drafod y mater.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail eu bod wedi penderfynu fis Awst y byddai'r bont yn cael ei dymchwel cyn diwedd y flwyddyn.
Maen nhw'n dweud bod yna ddwy bont arall o fewn cyrraedd.
"Byddai modd gwario'r arian fydd yn cael ei arbed yn y pen draw ar wella'r rhwydwaith," meddai llefarydd.
Ychwanegodd eu bod yn bwriadu trefnu cyfarfod gyda chynrychiolwyr lleol.