Y cam cynta'
- Published
Caerdydd fydd y lle cyntaf yng Nghymru i gael gwasanaeth teledu lleol.
Cafodd y drwydded ei chyhoeddi ddydd Mercher, ymhlith yr ail set o drwyddedau i gael eu cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r trwyddedau newydd ar gyfer sianeli teledu daearol digidol yng Nghaerdydd, Bryste a Norwich.
Cais TV Ltd, un gafodd ei arwain gan gyn reolwr gyfarwyddwr Barcud Derwen, Bryn Roberts, oedd yn llwyddiannus.
Made in Cardiff fydd enw'r sianel fydd yn gwasanaethu Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â'r brifddinas.
Dywedodd Mr Roberts wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio y bydd y sianel newydd yn darlledu "rywbryd y flwyddyn nesaf".
Ei dîm fydd yn gyfrifol am y cynnwys ond bydd Ofcom yn gwahodd ceisiadau am yr isadeiledd technegol.
Felly does dim modd dyddiad pendant ar gyfer cychwyn y sianel fydd ar gael ar Freeview.
Roedd Mr Roberts yn rheolwr gyfarwyddwr grŵp Barcud Derwen pan aeth i'r wal yn 2010, gan ddiswyddo 110 o bobl.
Deddfwriaeth
Mae dyfarniadau Ofcom - corff reoleiddio darlledu yn y DU - wedi deddfwriaeth newydd.
Y gobaith yw y bydd rhai sianeli ar yr awyr cyn diwedd 2013 ac mae'r drwydded yn para am 12 mlynedd.
Dywedodd Ofcom y bydden nhw'n dyfarnu trwydded ar gyfer 21 o leoliadau eraill maes o law.
Yn ogystal â darlledu ar deledu daearol digidol, mae'n bosib y bydd sianeli teledu lleol yn dymuno cynnig eu gwasanaethau ar loeren, cebl ac ar-lein.
Erbyn hyn mae Ofcom wedi dyfarnu pum trwydded deledu leol.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Chwefror 2012
- Published
- 9 Awst 2011
- Published
- 28 Medi 2010