Bwyty gan garcharorion yn agor yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kenyon Reid yn The Clink CymruFfynhonnell y llun, Clink Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae carcharorion fel Kenyon Reid yn gweithio llawn amser yn y bwyty cyn dychwelyd i'w gell ar ddiwedd y dydd

Mae bwyty y drws nesaf i garchar Caerdydd lle mae'r staff yn garcharorion wedi agor i'r cyhoedd.

Mae lle i 96 o gwsmeriaid yn The Clink Cymru, ac fe fydd 30 o garcharorion o garchardai Caerdydd a Phrescoed yn gweithio yno.

Cafodd y bwyty ei sefydlu gan elusen The Clink gyda'r bwriad o leihau'r raddfa o aildroseddu drwy gynorthwyo carcharorion i ddatblygu sgiliau sy'n addas i'r gweithle.

Dywedodd yr elusen bod y cynllun yn cael "effaith bositif" ar ailsefydlu troseddwyr.

Mae'r carcharorion Categori D (risg isel) yn gweithio llawn amser yn y bwyty a'r gegin cyn dychwelyd i'w celloedd ar ddiwedd y dydd.

Drwy wneud hynny, maen nhw'n hyfforddi tuag at ennill cymhwyster NVQ, a phan fyddan nhw'n gadael y carchar bydd yr elusen yn eu cynorthwyo i gael gwaith o fewn y sector arlwyo a lletygarwch yng Nghymru.

Hyfforddiant

Mae 15 carcharor arall yn gweithio yn adran ffermydd a gerddi Carchar Prescoed ym Mrynbuga, Sir Fynwy, lle maen nhw'n plannu a medi cnydau wrth weithio tuag at gymhwyster garddwriaethol.

Ffynhonnell y llun, Clink Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y bwyty ei gynllunio i edrych fel bwyty drud

Y cogydd o Gymru Stephen Terry - sydd â seren Michelin i'w enw - sydd wedi ei benodi yn gogydd llysgennad The Clink Cymru.

Cafodd y bwyty ei gynllunio i edrych fel bwyty drud gan ddefnyddio goleuo, dodrefn ac addurniadau eraill a gynlluniwyd gan garcharorion ar draws y DU.

Mae'r bwyty bellach ar agor i'r cyhoedd ar gyfer brecwast a chinio o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o fis Ionawr mae bwriad i'w agor gyda'r nos o ddydd Llun i ddydd Iau.

Dywedodd elusen The Clink bod llai na 30% o'r carcharorion sydd wedi gweithio ar y cynllun wedi dychwelyd i garchar ar ôl cael eu rhyddhau. Mae hynny'n cymharu'n ffafriol gyda'r cyfartaledd o 61% o garcharorion yn y DU sy'n aildroseddu.

'Dysgu parch'

Dywedodd llywodraethwr Carchar Ei Mawrhydi Caerdydd, Richard Booty, nad mater o fod yn rhy garedig i garcharorion oedd hwn.

"Mae angen i garcharorion ddysgu cael parch tuag at gymdeithas," meddai.

"Rhan o fy ngwaith i sicrhau bod y cyhoedd yn cadw'n ddiogel, ond hefyd i leihau'r risg o aildroseddau pan fydd carcharorion yn gadael yma.

"Ni fyddai'r cynllun yma yn gweithio oni bai bod canlyniadau positif yn dod ohono."

Bydd y carcharorion yn The Clink Cymru yn cael cyflog o £12 yr wythnos am weithio 39 awr dros bum diwrnod.

Mae hynny wedi arwain at feirniadaeth gan fudiad Right To Work sydd wedi cwyno am y cyflogau isel i'r carcharorion.

Mewn datganiad dywedodd y mudiad: "Ar hyn o bryd ym Mhrydain mae un o bob 12 person yn ddiwaith, a dros 20% o bobl ifanc rhang 16-24 oed heb waith.

"Bydd cynlluniau gwaith i garcharorion fel hyn ond yn cyflymu'r tueddiad yna wrth i gwmnïau droi at garchardai er mwyn gwneud mwy o elw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol