BBC Cymru Fyw

Trywanu yn Llanfairpwll: Cyhuddo dyn o geisio lladd

Published
image copyrightERIC JONES
image captionDigwyddodd y trywanu am 10pm nos Fawrth
Mae dyn yn ymddangos gerbron Ynadon Caergybi ar gyhuddiad o geisio lladd dyn ac o anafu menyw.
Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Keith Williams, 55 oed, yn dilyn digwyddiad mewn garej yn Llanfairpwll ar Ynys Môn nos Fawrth.
Cafodd dyn a menyw eu trywanu ar gwrt blaen garej Ty'n Lon yn y dref.
Cafodd y fenyw yn ei 50au anafiadau i'w brest, ond fe gafodd fynd adre o'r ysbyty yn dilyn triniaeth.
Cafodd y dyn, oedd hefyd yn ei 50au, anafiadau difrifol a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi'r ymosodiad pan gafodd ei drywanu yn ei wddf.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth gan dystion a welodd y digwyddiad am tua 10pm nos Fawrth.
Mae cais i bobl ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

  • Dau wedi eu trywanu mewn garej