Trywanu yn Llanfairpwll: Cadw dyn yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 55 oed wedi bod gerbron Ynadon Caergybi wedi i ddau gael eu trywanu ar gwrt blaen garej yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.
Roedd Keith Williams yn wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio dyn ac o ymosodiad corfforol difrifol ar fenyw mewn digwyddiad yn garej Ty'n Lôn nos Fawrth.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar Hydref 1.
Mae'r fenyw yn ei 50au wedi cael anafiadau i'w brest ond fe gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty.
Cafodd y dyn, oedd hefyd yn ei 50au, anafiadau difrifol a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi iddo gael ei drywanu yn ei wddf.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth gan dystion a welodd y digwyddiad am tua 10pm nos Fawrth.
Mae cais i bobl ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 19 Medi 2012