BBC Cymru Fyw

Tân marwol Cwmbrân: 36 awr arall i holi dyn

Published
image copyrightGwent Police
image captionBu farw tair cenhedlaeth teulu Buckley yn y tân

Mae'r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn wedi i dair cenhedlaeth teulu farw mewn tân yng Nghwmbrân fore Mawrth.

Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a'i hwyres chwe mis oed Kimberley ar stad Coed Efa yn y dref.

Cafodd dyn 27 oed o ardal Manceinion ei arestio yn fuan wedi'r tân ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Teyrngedau

Yn y cyfamser, mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r tair fu farw.

image copyrightWales News Service
image captionCafodd blodau a negeseuon eu gadael wrth y tŷ yng Nghwmbrân

Dywedodd Terena Mellor, cyfaill 26 oed Kim Buckley, ei bod hi'n "gymeriad mawr llawn hwyl".

"Os oedd hi'n eich gweld ochr arall y ffordd byddai'n gweiddi'ch enw a gofyn shwd oeddech chi," meddai.

Dywedodd Ms Mellor ei bod yn credu bod Kayleigh wedi bod yn feichiog gydag efeilliaid, ond ei bod wedi colli un wrth roi genedigaeth.

Dim ond yn ddiweddar iawn y cafodd y babi arall, Kimberley, fynd adre ar ôl treulio cyfnod mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

'Anodd credu'

Ychwanegodd Ms Mellor: "Mae hyn yn drasiedi. Roedd Kim a Kayleigh yn agos iawn, ac fe ddylai hyn fod wedi bod yn gyfnod hapus i bawb yn y teulu.

"Mae'n anodd credu beth sydd wedi digwydd."

Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu gan fod plismyn wedi cael eu galw i'r cyfeiriad yn flaenorol.

Dylai tystion ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

  • Babi, mam a nain wedi marw mewn tân yng Nghwmbrân

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol