Rheini yn colli brwydr i achub ysgol uwchradd
- Published
Mae Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews wedi cymeradwyo cau ysgol uwchradd wledig yn sir Gaerfyrddin.
Roedd rhai o rieni Ysgol Pantycelyn a chyngor tref Llanymddyfri wedi gwrthwynebu'r bwriad.
Mae'r cyngor am uno Ysgol Pantycelyn gydag Ysgol Tregîb, Llandeilo, a chodi ysgol newydd yn Ffairfach, ger Llandeilo.
Roedd nifer o rieni yn anhapus gyda'r lleoliad newydd, safle sy'n 15 milltir o Lanymddyfri.
Methiant fu ymdrechion grŵp ymgyrchu i fynd i gyfraith yn erbyn y sir.
Ymateb
Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllideb o £23.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i godi ysgol newydd.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge: "Rydym yn falch o benderfyniad y Gweinidog, ac yn edrych ymlaen at ddarparu'r buddsoddiad sylweddol yma mewn addysg yn ardal Dinefwr.
"Bydd y newidiadau yn gwella adnoddau a chyfleoedd, yn enwedig mewn addysg alwedigaethol a dwyieithog, i blant rhwng 14 ac 19 oed."
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Mawrth 2012
- Published
- 10 Mai 2011
- Published
- 22 Mawrth 2011
- Published
- 21 Ebrill 2010