Cofio Richie Thomas: 'Hen Rebel' Penmachno

Richie Thomas Image copyright Sain
Image caption Enillodd Richie Thomas y Rhuban Glas ym 1953

Cafodd plac ei ddadorchuddio ym Mhenmachno yn Nyffryn Cowny er cof am un o'r tenoriaid mwyaf poblogaidd a welodd Cymru erioed.

Mae'r plac wedi cael ei osod ar y tŷ lle ganwyd Richie Thomas, enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl ym 1953.

Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am recordio'r gân Yr Hen Rebel.

Cafodd y plac ei ddadorchuddio gan un o feibion Mr Thomas, Arthur, am 1.30pm ddydd Sadwrn.

Rhuban Glas

Yna bu cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan wyres Mr Thomas, y delynores, Elen Hydref, Trebor Edwards, plant yr ysgol leol, band sain Penmachno, côr y plwyf ac araith am fywyd Mr Thomas gan Walter Glyn Davies o Amlwch.

Roedd Richie Thomas yn rheolwr Ffatri Wlân wrth ei waith, a chodwr canu yn ei gapel, Bethania am dros 50 mlynedd.

Image copyright Sain
Image caption Penderfynodd Richie Thomas wrthod gyrfa broffesiynol

Bu'n canu yn ei fro am flynyddoedd cyn iddo ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Rhyl yn 1953, ac yntau'n 47 oed.

Bu'n cynnal cyngherddau ac yn recordio'n gyson wedi hynny.

Ymhlith uchafbwyntiau gyrfa Richie Thomas oedd ennill yr unawd tenor yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1951; ennill y Rose Bowl yng ngŵyl Gerdd Ryngwladol Blackpool, 1952, allan o 250 o gystadleuwyr, a chipio'r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953.

Recordiodd 10 o recordiau ar label Qualiton, ac yna recordiodd i labeli Welsh Teledisc a Cambrian cyn recordio dwy LP i gwmni Sain ym 1974 ac 1977.

Dywedodd ysgrifennydd Cyngor Cymuned Penmachno, Elfed Williams: "Roedd y cyngor cymuned yn teimlo yr oedd hi'n hen bryd inni dalu teyrnged i Richie Thomas fu'n byw yma trwy gydol ei oes.

"Richie oedd un o denoriaid gorau Cymru erioed ac mae'n haeddu cael ei gofio.

"Fe wrthododd yrfa broffesiynol neu fe fyddai wedi concro'r byd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.