Dicter busnesau Beddgelert am gyflenwadau trydan
- Published
Mae busnesau ym mhentref Beddgelert yn Eryri yn mynnu cael iawndal gan gwmni ynni gan honni fod cyfres o doriadau yn y cyflenwad trydan wedi niweidio eu busnes.
Mae Cymdeithas Twristiaeth Beddgelert, sy'n cynrychioli 47 o fusnesau, yn dweud eu bod wedi colli cyflenwadau yn ddirybudd ym mis Awst.
Dywed cwmni Scottish Power fod y broblem wedi ei achosi gan y tywydd.
Ychwanegodd llefarydd fod y cwmni wedi trefnu cyfarfod gyda'r cyngor cymuned er mwyn son wrthynt am gamau sydd wedi eu cymryd i wella'r sefyllfa.
Iawndal
"Roedd y toriadau ym mis Awst ac fe wnaeth o effeithio ar nifer o westai a thai gwely a brecwast, yn enwedig pan gollwyd cyflenwad trydan amser brecwast, " meddai Colleen Marsden, ysgrifennydd Cymdeithas twristiaeth Beddgelert
"Roedd siopau hefyd wedi eu heffeithio gan nad oedd peiriannau sy'n darllen cardiau credyd yn gweithio."
"Roedd yna dri neu bedwar o adegau pan gollwyd y cyflenwad, ac er ei bod yn ymddangos fod y broblem wedi ei datrys rydym yn gofyn am iawndal.
Ychwanegodd ei bod wedi cysylltu gyda'r cwmni ond yn dal i aros am ateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Scottish Power fod y problemau yn ymwneud a'r tywydd.
"Fe wnaeth taranau ddifrodi offer cludo trydan, ac ar adegau eraill fe wnaeth coed ddisgyn ar geblau o ganlyniad i wyntoedd cryfion
Ychwanegodd fod y cwmni wedi penderfynu moderneiddio'r cyfarpar.
"Mae cyfarfod wedi ei drefnu gyda'r cyngor cymuned ar gyfer dechrau hydref er mwyn rhoi gwybod iddynt beth rydym yn ei wneud. "