BBC Cymru Fyw

Gleision yn drydydd; Dreigiau'n colli

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Gleision 34-18 Treviso
Roedd Jamie Roberts ymysg y sgorwyr wrth i'r Gleision ennill ym Mharc yr Arfau am y tro cynta'r tymor hwn i godi i'r trydydd safle yng nghynghrair y Pro 12.
Roedd Dan Fish eisoes wedi croesi cyn i Roberts sgorio ail gais ei dîm. Gyda chicio Rhys Patchell, roedd gan y Gleision fantais o 17-3 ar yr egwyl, ond daeth Treviso yn ôl yn yr ail hanner.
Sgoriodd Robert Barbieri ddau gais i fygwth sioc, ond fe ddaeth dau gais arall i'r Gleision gan Jason Tovey a Campese Ma'afu i sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws.

Munster 33-13 Dreigiau

Ond fe gafodd y Dreigiau gweir ar daith i Iwerddon wrth i Munster godi i'r ail safle yn y tabl drwy sgorio pum cais.
Roedd Ian Keatley a Niall Ronan wedi croesio am geisiau o fewn y 13 munud cyntaf i sicrhau'r dechrau gwaethaf posibl i'r Dreigiau.
Daeth yr ymwelwyr yn ôl rhywfaint i'w chadw hi'n 14-3 ar yr egwyl, ond fe ddaeth tri chais arall i Munster yn yr ail gyfnod - Conor Murray, Simon Zebo a Tommy O'Donnell yn sgorio - gyda chais Dan Evans yn cynnig ychydig iawn o gysur i'r Dreigiau.

Scarlets 16-23 Gweilch

Nos Wener daeth buddugoliaeth gyntaf y tymor i'r Gweilch yn y Pro12 a hynny yn erbyn y tîm ar frig y gynghrair.
Ond roedd hon yn gêm darbi agos a chystadleuol o'r cychwyn cyntaf.
Y Gweilch oedd ar y blaen ar yr egwyl o 9-6, ciciau cosb gan Dan Biggar a Rhys Priestland.
Yn yr ail hanner roedd y Scarlets lawr i 14, er hynny roedd yna gyfle i'r tîm cartref fynd ar y blaen, ond fe wnaeth cic gosb Priestland daro'r postyn.
Blaenwyr y Gweilch oedd yn mwynhau'r oruchafiaeth ac fe wnaeth hynny arwain i gais i Ryan Jones ar ôl 70 munud. Llwyddodd Biggar gyda throsgais o ongl ddigon anodd.
Yna o fewn pedwar munud fe wnaeth y Gweilch ymestyn eu mantais, yr asgellwr Dirkson yn croesi'r llinell ar ôl gwaith da gan y blaenwyr.
Fe wnaeth y Scarlets sgorio cais yn y munud olaf, George North yn llwyddo i gael ei law ar y bêl yn dilyn cic o law Priestland.
Llwyddodd trosgais Priestland ar ddiwedd y gêm sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref.
Yn y gêm arall nos Sadwrn roedd buddugoliaeth i Leinster dros Gaeredin o 22-16.

Straeon perthnasol

  • Y Pro 12: Y Dreigiau 5-16 Gleision