Anaf i ddyn gafodd ei daro gan drên
- Published
Fe gafodd dyn anafiadau i'w ben wedi iddo gael ei daro gan drên ger Llanelli.
Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus, ac fe ddigwyddodd am 8:40am fore Sadwrn 500 llath o orsaf drenau Llanelli.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain nad ydyn nhw'n credu bod anafiadau'r dyn yn debyg o fod yn angheuol.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod y ddwy lein yn y cyffiniau wedi eu cau, ac mae teithwyr yn cael eu cludo ar hyd y ffyrdd rhwng Caerfyrddin ac Abertawe.
Ychwanegodd y cwmni mai'r gwasanaeth 0815 o Abertawe i Gaerfyrddin oedd y trên dan sylw.
Cafodd parafeddygon a Heddlu Dyfed Powys eu galw i'r safle.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol