BBC Cymru Fyw

Y Seintiau ar y brig

Published
image copyrightNot Specified

Roedd y goliau'n llifo yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn wrth i'r Bala ennill am y tro cyntaf, a'r Seintiau Newydd geisio codi i'r brig.

Y Seintiau Newydd 3-0 Bangor

Roedd y Seintiau'n croesawu Bangor yn y gêm hwyr ddydd Sadwrn, a doedd y pencampwyr heb ennill ers tair gêm.

Ond roedden nhw ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl Alex Darlington wedi 14 munud yn dilyn camgymeriad gan Dave Morley.

Roedd Morley - oedd yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn yn absenoldeb Jamie Brewerton - ar fai am yr ail gôl hefyd. Fe gafodd dau gyfle i daclo Mike Wilde yn y cwrt cosbi, ond fe fethodd ddwywaith a gweld Wilde yn rhwydo.

Daeth y drydedd gyda deng munud yn weddill wrth i Chris Seargeant sgorio yn erbyn ei gyn glwb i ddod â rhediad da Bangor yn ddiweddar i ben, ac i gymryd eu lle ar frig tabl Uwchgynghrair Cymru.

Aberystwyth 0-2 Llanelli (Nos Wener)

Dechreuodd y penwythnos nos Wener wrth i Lanelli ennill 2-0 yn Aberystwyth, a hynny er iddyn nhw chwarae am awr gyfan gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch i Mamadou Diallo wedi 31 munud.

Martin Rose sgoriodd un yn y ddau hanner i gipio'r triphwynt.

Ond brynhawn Sadwrn roedd yna goliau di-ri ymhobman bron.

Y Bala 3-0 Caerfyrddin

Ar ôl eu dechrau ofnadwy i'r tymor a welodd y Bala'n dechrau'n diwrnod ar waelod y tabl, daeth rhyddhad wrth iddyn nhw groesawu Caerfyrddin.

Lee Hunt ddechreuodd y difrod gyda dwy gôl gynnar i'r Bala, ac fe ychwanegodd Kenny Lunt un arall cyn yr egwyl i'w gwneud hi'n 3-0.

Cei Cona 6-4 Lido Afan

Roedd yna golled arall i Lido Afan wedi iddyn nhw golli yn erbyn Bangor yr wythnos ddiwethaf, ond roedd hon yn un ryfeddol.

Sgoriodd Gary O'Toole a Dean Canning ddwy yr un gyda Rhys Healy a Jamie Petrie yn ychwanegu'r ddwy arall wrth i Gei Cona sgorio chwech.

Daeth llu o goliau hwyr i'r Drenewydd gyda Luke Borelli a Mark Jones yn sgori dwy bob un, ond er hynny roedd hi'n brynhawn diflas i Lido Afan, a thaith hir a siomedig yn ôl i'r de i'w cefnogwyr.

Y Drenewydd 1-7 Airbus UK Brychdyn

Gallai cefnogwyr Y Drenewydd gerdded adre o'u gêm nhw, ond digon diflas fyddai'r daith honno hefyd.

Roedd pedwar sgoriwr gwahanol i Airbus wrth iddyn nhw chwalu'r Drenewydd, gyda hat-tric i Steve Abbott a Chris Budres yn sgorio dwy.

Tom Fields a Steve Tomasson gafodd y ddwy arall i Airbus gyda Craig Whitfield yn ymateb i'r Drenewydd.

Prestatyn 1-1 Port Talbot

Ar ôl curo'r Seintiau Newydd yr wythnos ddiwethaf, aeth Prestatyn ar y blaen wedi dim ond chwe munud yn Bastion Gardens, gyda Jason Price yn rhwydo.

Ond dim ond pwynt gafodd Prestatyn y tro hwn gan i David Brooks unioni'r sgôr wedi naw munud o'r ail hanner i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr.