Arweinydd Plaid yn erbyn ynni niwclear
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn disgwyl i ymgeiswyr etholiadau'r cyngor ar Ynys Môn y flwyddyn nesaf i ddatgan neges y blaid o wrthwynebiad i ynni niwclear.
Dywedodd Leanne Wood y byddai Plaid yn gweithio i greu swyddi ar yr ynys, ond bod well ganddi dechnolegau adnewyddol dros niwclear.
Mae hynny'n groes i farn cyn arweinydd y blaid a'r Aelod Cynulliad lleol Ieuan Wyn Jones, sy'n cefnogi Wylfa B.
Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, hefyd wedi dweud bod dyfodol Wylfa yn "allweddol" i'r economi.
Byddai cannoedd o swyddi'n cael eu creu gan atomfa newydd fel rhan o gynllun ynni Horizon, sydd yn destun diddordeb gan fuddsoddwyr o Ffrainc a China.
Bydd yr adweithydd presennol, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1971, yn cau erbyn 2014.
Gohirio
Polisi Plaid Cymru yw gwrthwynebu codi atomfa newydd yng Nghymru, ond roedd AC Ynys Môn wedi cefnogi ymdrechion i sicrhau pwerdy niwclear newydd ar yr ynys.
Bydd trigolion Môn yn pleidleisio ym mis Mai 2013 wedi i etholiadau'r cyngor yno gael eu gohirio am flwyddyn wedi i Lywodraeth Cymru benodi comisiynwyr i redeg y cyngor.
Dywedodd Ms Wood ar raglen Sunday Politics Wales: "Byddaf yn dweud wrth yr ymgeiswyr i wneud yn siwr eu bod yn trosglwyddo neges glir Plaid Cymru i'r etholwyr, sef gwneud popeth y medrwn ni ar lefel leol, gan weithio gyda'r cynulliad ac ar lefel San Steffan i greu cymaint o swyddi ag sy'n bosibl ar yr ynys."
Ond os fydd atomfa newydd yn cael ei chodi yn Wylfa, dywedodd Ms Wood y byddai cynghorwyr Plaid yn lobïo i sicrhau "bod y swyddi sy'n cael eu creu yno yn mynd i bobl leol, a bod gan y bobl leol y sgiliau i fedru gwneud y swyddi yna".
'Theatr wleidyddol'
Yn gynharach yn y mis, traddododd Ms Wood ei haraith gyntaf fel arweinydd i gynhadledd y Blaid gan addo "bargen newydd werdd" i hybu economi Cymru.
Ar y rhaglen Sunday Politics, ymatebodd Leanne Wood i'r newyddion ei bod wedi cael ei gweld ar gamera yn tyngu llw i weriniaetholdeb Cymreig mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ar y diwrnod y daeth y Frenhines i Gaerdydd i agor y Senedd ym Mehefin 2011.
Gwrthododd AC Canol De Cymru fynd i'r digwyddiad, gan ddewis yn hytrach fynd i ddigwyddiad a drefnwyd gan fudiad o'r enw Balchder Cymru.
"Roedd hwnna'n ddarn o theatr wleidyddol a gynlluniwyd i ddangos rhai o'r deddfau hynafol yn ymwneud â theyrnfradwriaeth. Rwy'n credu fy mod wedi dysgu fy ngwers ac ni fyddaf yn perfformio yn y theatr wleidyddol eto," meddai.
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2012
- 21 Mawrth 2012
- 15 Mawrth 2012