Kirsty Williams yn barod i ddadlau

  • Cyhoeddwyd
Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Kirsty Williams bod ei phlaid yn dal i recriwtio aelodau newydd er gwaetha'r cyfnod anodd

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi dweud ei bod yn fodlon dadlau yn erbyn ei phlaid yn San Steffan os fydd yn anghytuno gyda'r llywodraeth glymblaid yno.

Roedd Ms Williams yn siarad yn ystod cynhadledd flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton.

Mae'r blaid yn defnyddio'r gynhadledd i bwysleisio'r gwahaniaethau rhyngddyn nhw â'u partneriaid yn y glymblaid, y Ceidwadwyr.

Ond cyfaddefodd Kirsty Williams ei bod yn wynebu'r her ychwanegol o ymbellhau oddi wrth rhai o benderfyniadau ei phlaid ei hun yn San Steffan.

Dywedodd nad oedd ganddi ofn anghydweld â'i chydweithwyr os oedd yn meddwl bod hynny er lles Cymru ar faterion fel cyflogau rhanbarthol.

Recriwitio

Ond mynnodd hefyd bod y blaid yng Nghymru yn dal i recriwtio aelodau newydd er gwaetha'r ffaith ei bod yn gyfnod anodd i'r blaid yn genedlaethol.

Dywedodd Ms Williams: "Mae'r wlad angen i wleidyddion roi anghytundebau o'r neilltu a cheisio gweithio er mwyn cael y wlad allan o'r dirwasgiad gwaethaf ers degawdau.

"Mae hwn yn gyfnod anodd i'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn adlewyrchu'r cyfnod anodd sy'n wynebu llawer o bobl yn y wlad oherwydd y trafferthion parhaus gyda'r economi.

"Ond mae'r ysbryd yn dda yma yn Brighton, ac rydym yn cyflwyno cynigion i gynorthwyo teuluoedd sy'n gweithi'n galed ac yn ei chael yn anodd ar hyn o bryd.

"Pan fydd y cynigion yna'n dwyn ffrwyth bydd y blaid yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y polau piniwn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol