Annog athrawon newydd ar gwrs sgiliau
- Cyhoeddwyd

Mae athrawon newydd yng Nghymru wedi cael eu hannog i fynd ar gwrs ôl-radd newydd y mae'r Gweinidog Addysg yn dweud fydd yn codi safonau mewn ysgolion.
Bydd Rhaglen Meistri mewn Addysg yn canolbwyntio ar sgiliau i daclo llythrennedd, rhifedd ac ymddygiad.
Dywedodd Leighton Andrews y bydd y cymhwyster yn rhoi Cymru "ar flaen y gad o safbwynt datblygiad proffesiynol athrawon".
Mae undebau wedi croesawu'r syniad, ond yn pryderu am yr effaith ar bwysau gwaith athrawon sydd newydd gymhwyso.
Rhaglen y Meistri yw'r syniad diweddaraf i daclo'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ei weld fel safonau isel mewn sgiliau sylfaenol mewn ysgolion.
Gwaelod y rhestr
Fe ddaw 18 mis wedi i ffigyrau ddangos bod Cymru'n llithro i lawr y rhestr fyd eang o asesiadau disgyblion 15 oed.
Cymru oedd y wlad isaf ar y rhestr yn y DU ar raglen PISA (Programme for International Student Assessment).
Dywedodd Mr Andrews ar y pryd bod y canlyniadau yn annerbyniol, ac y dylai pawb fod yn bryderus.
Fe lansiodd gynllun llythrennedd cenedlaethol ym mis Mai sy'n cynnwys profion darllen, a dywedodd ei fod yn disgwyl i bob athro hefyd ddysgu llythrennedd yn eu dosbarthiadau.
O dan gynllun y meistri, bydd athrawon newydd yn mynd ar gwrs tair blynedd fydd wedi ei drefnu o gwmpas eu swyddi bob dydd, ac yn defnyddio'u profiadau yn y dosbarth gyda chefnogaeth mentoriaid.
Dywed trefnwyr y cwrs y bydd athrawon sydd newydd gymhwyso yn gwneud modiwlau ar bynciau fel rheoli ymddygiad ac arweiniad, ond ni fydd rhaid iddyn nhw fynychu darlithoedd ffurfiol.
'Profiadol a hyderus'
Credir y bydd cymaint â 1,000 o athrawon newydd yn dechrau'r cwrs eleni.
Dywedodd Leighton Andrews: "Er mwyn codi safonau a pherfformiad mewn ysgolion ar draws Cymru rhaid i ni ddatblygu athrawon gyda sgiliau gwych sydd yn brofiadol ac yn hyderus yn y dosbarth, ac yn medru dysgu'n effeithiol o ganlyniad i hynny.
"Gyda mwy o brofiad proffesiynol, rydym yn darparu rhaglen sy'n unigryw i Gymru ac a fydd yn ein rhoi ar flaen y gad yn y DU ac yn fyd eang o safbwynt datblygiad proffesiynol athrawon."
Bydd y cwrs yn cael ei redeg gan gyngres o Brifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth, ynghyd â Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain.
Bydd gwefan addysgu Dysgu Cymru yn cael ei lansio ddydd Llun i gefnogi athrawon fydd yn gwneud rhaglen y meistri.
Pwysau gwaith
Mae undebau athrawon wedi croesawu'r syniad o gymhwyster meistr, ond wedi mynegi pryder am y pwysau gwaith ychwanegol.
Dywedodd Owen Hathway, swyddog polisi Cymru o'r NUT: "Does dim cwestiwn am broffesiynoldeb athrawon - gobeithio bydd cynllun y meistri yn codi ymwybyddiaeth o hynny.
"Ond y prawf go iawn fydd a oes straen ychwanegol ar athrawon - wrth fynd i'r ail a'r drydedd flwyddyn, ni fyddan nhw'n cael amser ychwanegol i wneud y gwaith.
"Mae hynny'n codi cwestiwn am ymarferoldeb y peth o ystyried cyfyngiadau amser a phwysau gwaith athrawon."
Straeon perthnasol
- 4 Medi 2012
- 23 Awst 2012
- 20 Mehefin 2012
- 29 Mawrth 2011