Cyngor Powys yn trafod codi tair fferm wynt
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gabinet Cyngor Sir Powys drafod ceisiadau i godi tair fferm wynt fawr yn y sir.
Byddai'r tair fferm yn cynhyrchu dros 50 megawat o ynni yr un.
Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, gyda'r cyngor sir yn gweithredu fel ymgynghorwyr statudol.
Bydd cabinet y cyngor yn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Llandrindod, fore Mawrth i drafod y ceisiadau ar gyfer y safleoedd yn Llaithdu, Llandinam a Llanbrynmair.
Dywedodd Arweinydd Gweithredol y cyngor, David Jones, bod y ceisiadau cynllunio i godi ffermydd gwynt yn "faterion pryder sylweddol" i bobl Powys.
Lle cyfyngynedig
"Rydym yn disgwyl y bydd diddordeb enfawr yn y trafodaethau.
"Er mwyn i gymaint o bobl â phosib allu gweld a chlywed y drafodaeth, bydd y cyngor unwaith eto'n darlledu'r trafodion yn fyw ar y rhyngrwyd.
"Rydym hefyd yn disgwyl nifer o drigolion i ddod i Neuadd y Sir, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod lle i gymaint o bobl â phosibl.
"Fodd bynnag, ychydig o le sydd ar gael, felly bydd cyfyngiad ar y niferoedd."
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwrthwynebu ceisiadau tebyg yn y gorffennol, sydd wedi arwain at gynnal sawl ymgynghoriad cyhoeddus.
Cafodd nifer o geisiadau am ffermydd gwynt eu gwrthwynebu ym mis Mawrth eleni, er enghraifft.
Roedd y ceisiadau'n ymwneud â chodi dwy fferm wynt, un ger Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn ac un ar dir yn Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed.
Straeon perthnasol
- 13 Mawrth 2012
- 6 Mawrth 2012
- 26 Chwefror 2012
- 1 Chwefror 2012
- 23 Ionawr 2012
- 18 Ionawr 2012