Tân Cwmbrân: Dyn gerbron llys
- Published
Mae dyn 28 oed wedi bod o flaen Llys y Goron Casnewydd ar gyhuddiadau o lofruddiaeth wedi tân yng Nghwmbrân laddodd dair cenhedlaeth o'r un teulu.
Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a'i hwyres chwe mis oed Kimberley yn y tân ar stad Coed Efa ddydd Mawrth.
Bydd Carl Mills yn y ddalfa cyn mynd o flaen llys ym mis Rhagfyr.
Cafodd diffoddwyr eu galw i'r tân ddydd Mawrth, a dywedodd yr heddlu bod cymdogion wedi ymdrechu'n ddewr i achub y teulu ond bod y fflamau'n rhy danbaid.
Dywedodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Wedi ystyried y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma gan Heddlu Gwent, rydym wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth, a'i bod o fudd i'r cyhoedd, ein bod yn cyhuddo Carl Anthony Mills o dri chyhuddiad o lofruddiaeth."
Ychwanegodd y Ditectif Brif-Arolygydd Pete Jones o Heddlu Gwent: "Mae ein meddyliau o hyd gyda theulu Kim, Kayleigh a Kimberley yn y cyfnod anodd yma."
Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu gan fod plismyn wedi cael eu galw i'r tŷ sawl gwaith o'r blaen.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Medi 2012
- Published
- 19 Medi 2012
- Published
- 20 Medi 2012