'Angen i Gymru fod ar fap y byd'
- Cyhoeddwyd
Does dim modd i economi Cymru gystadlu os nad yw'n amlwg ar fap y byd, meddai Prif Weinidog Cymru wrth arweinwyr busnes ac undebau.
Os oedd busnesau Cymru'n mynd i ffynnu, meddai Carwyn Jones, byddai gwerthu dramor a denu arian tramor yn allweddol.
Dywedodd fod "cynyddu allforion a buddsoddi o dramor yn hanfodol i economi Cymru".
Roedd yr Arglwydd Heseltine yn y cyfarfod yng Nghaerdydd fel rhan o'i adolygiad a oedd adrannau'r llywodraeth yn helpu'r economi i dyfu.
'Blaengar'
Dywedodd Mr Jones fod denu buddsoddiad a masnach o dramor yn hanfodol "mewn economi fydeang sy'n gystadleuol dros ben".
"Dyna pam ei bod yn bwysicach nac erioed fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmnïau o Gymru i chwilio am gyfleoedd am fasnach mewn marchnadoedd newydd.
"Mae'r economi fydeang yn parhau yn anodd dros ben ac fe fydd gweithgynhyrchu ac allforion yn ganolog i adfywiad Cymru.
"Mae gwneud cynnyrch blaengar y mae'r byd ei eisiau yn hanfodol os ydym am gystadlu."
Dywedodd fod angen staff mewn "lleoliadau allweddol," gan gynnwys arfordir gorllweinol America a Cheufor Persia lle oedd un swyddog yn cynrychioli Cymru ac 14 yn cynrychioli'r Alban..
"Rhaid canolbwyntio'n benna' ar greu ac amddiffyn swyddi a chreu mwy o gyfleoedd i bobol Cymru."
Gwahaniaeth
Roedd yn gobeithio, meddai, y byddai diwygio'r system cymwysterau addysgiadol yn gwneud gwahaniaeth.
"Yn fwy na dim, rydyn ni eisiau parhau â'n mesurau i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer ein pobol ifanc - a hybu'r economi."
Roedd y Gweinidog Masnach, yr Arglwydd Green, hefyd yn y cyfarfod.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod gwerth allforion Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi tyfu o £81 miliwn o'i gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol.
Ond roedd allforion yn ail chwarter eleni yn llai na'r hyn oedden nhw yr un cyfnod yn 2011.
Straeon perthnasol
- 19 Medi 2012
- 17 Medi 2012
- 8 Medi 2012
- 5 Medi 2012