Cwest yn clywed am gyffuriau
- Cyhoeddwyd

Clywodd cwest yng Nghaerfyrddin fod dyn â hanes o gymryd cyffuriau wedi marw ar ôl llyncu pecyn oedd yn cynnwys powdr gwyn.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Darren Pantall, 45 oed o Lanelli, ar amheuaeth o ymosod.
Gwelodd y Cwnstabl Chris Neve y dyn ar Dachwedd 30, 2011 - roedd Mr Pantall yn cerdded gyda dyn arall wrth ymyl Gorsaf Heddlu Llanelli tua 5.50pm.
Clywodd y cwest fod y cwnstabl wedi stopio ei gar ac wedi cerdded ato a gweld bag yn ei law dde oedd yn cynnwys powdr gwyn.
Dywedodd y plismon iddo weld Mr Pantall yn ceisio llyncu rhywbeth.
Clywodd y cwest iddo ddweud wrth Mr Pantall i boeri'r pecyn o'i geg a bod dau heddwas o'r orsaf wedi cyrraedd.
Ysbyty
Dywedodd nad oedd yn ymddangos bod y dyn mewn trafferth ac aed ag ef i orsaf yr heddlu.
Roedd y cwnstabl wedi trafod yr angen i gludo Mr Pantall i'r ysbyty ar gyfer archwiliad meddygol.
Pan waethygodd ei gyflwr a chwympo i'r llawr daeth parafeddyg i helpu ond cyhoeddwyd ei fod wedi marw pan gyrhaeddodd Ysbyty Prince Philip.
Yn y cwest gofynnodd Elizabeth Marshall ar ran teulu Pantall a oedd y cwnstabl yn ymwybodol fod gan Mr Pantall hanes o lyncu cyffuriau.
Dywedodd y Cwnstabl Neve nad oedd yn ymwybodol o hynny.
Fe'i holwyd am ganllawiau'r heddlu ynglŷn â delio a phobl oedd yn llyncu cyffuriau yn y ddalfa.
Canllawiau
Dywedodd yr heddwas nad oedd wedi gweld y canllawiau adeg yr arestio yn Nhachwedd 2011.
Yn ôl y canllawiau, mae angen mynd â phobl sy' wedi llyncu pecyn cyffuriau neu sy'n cael eu hamau o hynny i'r ysbyty ar unwaith.
Y rheswm am hyn yw bod pryder y gallai'r pecyn dorri ac y gallai'r cyffuriau achosi marwolaeth.
Dywedodd y cwnstabl mai ei fwriad "oedd sicrhau triniaeth feddygol i Darren Pantall ... nid oeddwn ar unrhyw adeg yn bwriadu ei roi mewn cell.
"Gwnaed y penderfyniad i fynd ag ef i orsaf yr heddlu oherwydd ble oedden ni ar y pryd."
Gwadodd fod Mr Pantall wedi dangos unrhyw arwyddion o dagu nac anhwylder cyn iddo gwympo i'r llawr.
Mae disgwyl i'r achos bara dros wythnos.