Sir yn rhoi teyrnged i athletwyr Llundain 2012

Jade Jones Image copyright Getty ALLSPORT
Image caption Enillodd Jade Jones fedal aur mewn Taekwondo yn y Gemau Olympaidd eleni

Bydd derbyniad dinesig yn cael ei gynnal er mwyn rhoi teyrnged i athletwyr o Sir y Fflint wnaeth gystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni.

Ymhlith y rheiny fydd yn cael eu hanrhydeddu ddydd Mawrth fydd Jane Jones, 19 oed, o'r Fflint a enillodd fedal aur mewn Taekwondo yn y Gemau Olympaidd a Bev Jones, 37 oed, o Shotton a enillodd fedal efydd yng nghamp y ddisgen yn y Gemau Paralympaidd.

Bydd dau arall fu'n cystadlu yn y Gemau Paralympaidd hefyd yn cael eu hanrhydeddu, sef Amy Brierly, 23 oed, fu'n cystadlu yn y gamp Pêl-foli eistedd a'r chwaraewr tenis bwrdd Scott Robertson, 36 oed.

Bydd cyflwyniad arbennig yn cael ei gynnal Neuadd y Sir Y Wyddgrug.

Fforwm Anabledd

Dywedodd cadeirydd Cyngor Sir y fflint, Ann Minshull: "Rydym yn falch iawn o bawb o Sir y Fflint wnaeth gystadlu yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd.

Cafodd Jade Jones ei chroesawu gan gannoedd o bobl yn Y Fflint ym mis Awst wrth iddi ddychwelyd adre.

Ddydd Gwener, bydd Tom James, 28 oed o Goedpoeth, yn cael ei anrhydedd trwy dderbyn rhyddfraint tref Wrecsam.

Enillodd James ei fedal aur gyntaf yn Beijing yn 2008, ac fe gafodd un arall wrth rwyfo yn Eton Dorney yn ystod Gemau Llundain.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.