MTV yn amddiffyn cyfres deledu am bobl o'r Cymoedd
- Published
Mae sianel deledu MTV wedi amddiffyn ei phortread o Gymru mewn cyfres realiti newydd sy'n cael ei darlledu nos Fawrth.
Mae "The Valleys" yn dilyn hynt a helynt naw o bobl ifanc o'r Cymoedd sy'n symud i fyw gyda'i gilydd i Gaerdydd.
Yn ôl beirniaid, mae'r cynhyrchwyr wedi portreadu'r cymeriadau mewn ffordd ystrydebol.
Mae'r tŷ yn cynnwys papur wal gyda chenhinen arno, ac mae yna ddafad-siglo yn hytrach na cheffyl-siglo.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni nad yw'r honiad o fod yn rhy ystrydebol yn gywir.
'Ofnadwy'
Y nod, meddai, yw dilyn naw unigolyn a sôn am eu profiadau personol.
Ond mae beirniaid wedi sefydlu gwefan - 'Dyma'r Cymoedd' - yn amddiffyn yr ardal ac mae'r gantores Charlotte Church wedi galw'r gyfres yn ofnadwy.
"Mae pobl yn teimlo'n grac am y peth," meddai Alex Bevan o 'Dyma'r Cymoedd.'
Mae'r grŵp wedi galw ar y sianel i roi 5% o arian hysbysebu sy'n cael ei gasglu yn ystod y gyfres i elusen leol.
Dyw'r sianel heb ymateb i'r cais hwnnw.
Bydd y gyfres yn dechrau ar MTV ddydd Mawrth am 10pm.