Llys: Ymosod ar ŵr â rholbren
- Cyhoeddwyd

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod gwraig wedi awgrymu y byddai ei gŵr yn cael anrheg arbennig cyn ymosod arno â rholbren.
Roedd Beverley Jones, 41 oed o Fforestfach, Abertawe, wedi gofyn i Michael Rees gau ei lygaid a chyfrif tri cyn ei daro ar ei drwyn.
Aed â Mr Rees, 39 oed, i'r ysbyty.
Plediodd y diffynnydd yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol a chafodd orchymyn cymunedol am ddwy flynedd.
Clywodd y llys fod Jones wedi gweld neges destun ar ffôn symudol ei gŵr ac yn ei amau o fod yn anffyddlon.
'Cymodi'
Dywedodd Kevin Jones ar ran yr erlyniad: "Roedd ffrae rhwng y ddau cyn iddyn nhw gymodi ... gofynnodd iddi ddod i'r gwely.
"Aeth Jones i fyny'r grisiau a diffodd y goleuadau cyn dweud: 'Mae 'da fi anrheg 'Dolig i ti. Wyt ti eisiau hi?'"
Clywodd y rheithgor ei bod hi wedi gofyn iddo gau ei lygaid a chyfri tri.
Pan agorodd ei lygaid roedd hi'n dal rholbren. Ceisiodd ei daro yr ail dro ond fe lwyddodd i'w rhwystro.
Ers y digwyddiad mae'r ddau wedi gwahanu.
Roedd y neges destun yn ddiniwed yr oedd cariad cyd-weithiwr wedi ei hanfon.
Dywedodd y barnwr ei fod yn credu fod y digwyddid yn "ynysig" ac na fyddai dedfryd o garchar yn addas.