Abertawe yn ennill yn erbyn Crawley yng Nghwpan y Gynghrair
- Cyhoeddwyd

Crawley 2-3 Abertawe
Gôl Garry Monk yn yr amser ychwanegol wnaeth sicrhau buddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Crawley yn nhrydedd rownd Cwpan Capital One nos Fawrth.
Roedd Yr Elyrch wedi mynd ar y blaen wrth i Miguel Michu sgorio cyn i Crawley daro'n ôl gyda Josh Simpson yn sicrhau bod y timau yn gyfartal ar yr egwyl.
Wrth i'r tîm cartref fynd ar y blaen gydag ergyd Hope Akpan roedd 'na bryder y byddai'r tîm cartref yn sicrhau sioc wrth i dîm o'r Adran Gyntaf guro tîm o'r Uwchgynghrair.
Ond fe lwyddodd Danny Graham i ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal wedi 74 munud.
Ond bu'n rhaid aros tan y funud olaf i dîm Michael Laudrup sicrhau buddugoliaeth yn Stadiwm Broadfield.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf capten Abertawe, Monk, y tymor yma wedi trafferthion gyda'i gefn.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Yr Elyrch wedi llwyddo i fynd ymhellach na'r tymor diwethaf yn y gystadleuaeth pan gawson nhw eu curo yn erbyn Yr Amwythig o'r Ail Adran.
Wedi colli yn erbyn Everton yn y gynghrair ddydd Sadwrn roedd ennill yn bwysig i'r Elyrch.
Ond colli oedd hanes Everton yng Nghwpan Capital One nos Fawrth o 2-1 yn erbyn Leeds United o'r Bencampwriaeth.