BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i Gasnewydd yn eu cadw ar frig y tabl

Published
image copyrightOther

Telford 2-4 Casnewydd

Parhau i fod ar frig Uwchgynghrair Blue Square y mae Casnewydd ar ôl buddugoliaeth o 4-2 oddi cartref yn erbyn Telford nos Fawrth.

Doedd hi ddim yn noson i'w chofio i'r tîm cartref a orffennodd gyda naw dyn.

Telford aeth ar y blaen wedi 27 munud wrth i Kieron St Aimie sgorio cyn i Aaron O'Connor sicrhau bod y sgôr ar yr egwyl yn gyfartal.

Ond yn yr ail hanner aeth hi o ddrwg i waeth i'r tîm cartref.

Wedi pedwar munud yn unig o'r ail hanner sgoriodd Daniel Preston yn ei rwyd ei hun i roi mantais i'r ymwelwyr.

Cafodd St Aimie ei anfon oddi ar y cae ar ôl derbyn cerdyn coch am ymddygiad annerbyniol.

Llwyddodd Ismail Yakubu i roi'r ymwelwyr ymhellach ar y blaen cyn ergyd Andy Sandell i'r gornel chwith sicrhau'r fuddugoliaeth i Gasnewydd.

Ond dri munud yn ddiweddarach, ar ôl cael cerdyn melyn, fe wnaeth Sandell rwydo i'w rwyd ei hun i roi rhywfaint o gysur i Telford.

Fe welodd Preston gerdyn coch wedi 74 munud gyda'r tîm cartref yn gorffen y gêm efo naw dyn.

Bydd Casnewydd yn croesawu Grimsby i Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Dolenni perthnasol ar y we

  • Clwb Pêl-Droed Casnewydd (Saesneg)

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol