Tîm seiclo i Gymru
- Published
Bydd Seiclo Cymru yn lansio eu tîm seiclo yn y Felodrom Cenedlaethol yng Nghasnewydd ar Hydref 3.
Cymru yw'r wlad gyntaf ymysg gwledydd Prydain i gael tîm ei hun.
Daw'r penderfyniad wedi llwyddiant seiclwyr Prydain yn y felodrom yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ym mis Awst.
Mae seiclwyr o Gymru wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys Geraint thomas, Becky James ac Elinor Barker.
Enillodd Barker Bencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd dan 19 yr wythnos diwethaf.
Bydd y tîm yn cystadlu yng nghystadlaethau Cwpan y Byd yn Colombia, Glasgow a Mecsico yn 2012-13.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Medi 2012