Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol newydd i'r gogledd
- Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru yn cael ei chynnal.
Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd beirdd amlwg a thu hwnt yn denu cynulleidfa eang.
Aberystwyth, Bangor, Machynlleth a'r Wyddgrug yw trefi'r ŵyl gyda'r digwyddiadau ar lan y môr, mewn prifysgolion a theatrau.
Bydd beirdd ac awduron yn perfformio ar bier Bangor a siop lyfrau ym Machynlleth.
Ym Mhrifysgol Bangor bydd yr ŵyl yn dechrau nos Lun pan fydd y bardd lleol a'r cyfieithydd Tony Conran yn darllen ei waith yn Neuadd Powis.
Ar ôl cyfieithu barddoniaeth beirdd o Gymru a'r byd bydd Cia Rinne, Anja Utler, Samantha Wynne-Rhydderch a Twm Morys yn perfformio cerddi ddydd Iau mewn siop lyfrau ar Stryd Penrallt ym Machynlleth.
Gweithdai
A Chaffi'r Whistlestop ar y pier ym Mangor yw'r lleoliad ar gyfer darlleniad Gwyn Thomas ddydd Sadwrn.
Bydd awduron o Gatalonia, Gwlad Pwyl, Groeg a Tseina yn cynnal gweithdai a darllen cerddi fel rhan o'r ŵyl gyntaf.
Bydd y darlleniadau ym mamiaith y beirdd a chyfeithiadau i'r Gymraeg a'r Saesneg ar gael.
Mae'r ŵyl yn gydweithrediad rhwng Poetry Wales, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Tŷ Cyfieithu Cymru.
"Mae barddoniaeth yn cyfuno ystyr a sŵn geiriau yn annisgwyliadwy," meddai trefnydd yr Ŵyl, Zoë Skoulding.
"Ac mae gwrando ar ieithoedd eraill yn ffordd arbennig o ddarganfod cyfoeth ein diwylliant ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2006