BBC Cymru Fyw

Becky James ac Owain Doull yn ennill medalau aur

Published
image copyrightPA
image captionLlwyddodd Becky James i ennill medal aur
Mae'r Gymraes Becky James wedi ennill ras seiclo 500m yn erbyn y cloc i ferched Prydain.
Roedd y gystadleuaeth ym mhencampwriaeth trac cenedlaethol ym Manceinion ddydd Mercher.
Llwyddodd y Cymro Owain Doull i ennill y ras unigol i ddynion.
Fe fydd y bencampwriaeth yn parhau ddydd Iau.
Y Gymraes 20 oed o'r Fenni oedd yr olaf i gymryd rhan ac fe wnaeth gwblhau'r cwrs mewn amser o 34.763 eiliad.
Victoria Williamson oedd yn ail (35.749 eiliad) a Danielle Khan yn drydydd (36.04 eiliad).
Roedd chwaer Becky, Rachel, yn bumed.

Arian i Colbourne

O ran y dynion roedd Doull wedi cofnodi'r amser cyflymaf yn y rhagras cyn llwyddo yn y ras derfynol yn erbyn Jon Dibben oedd yn ail.
Bu'n rhaid i Mark Colbourne, enillodd fedal aur a dwy arian yn y Gemau Paralympaidd yn gynharach eleni, fodloni ar arian yn ei ras ddydd Mercher yn erbyn y cloc.
Sophie Thornhill, sydd â nam ar ei golwg ac yn cael cymorth Megan Boyd, enillodd y ras.
Fe fydd y chwiorydd James yn cystadlu yn y ras tîm dros y dyddiau nesaf.
"Dyma gychwyn i fy nhymor," meddai Becky.
"Dydi'r cychwyn ddim wedi bod yn wych hyd yma gydag anaf a salwch.
"Felly dyma gychwyn da i'r tymor ac roedd yn wych cael fy amser gorau."

Straeon perthnasol

  • Tîm seiclo i Gymru